Southport 0-1 Wrecsam

Daeth rheswm i'r cefnogwyr deithiodd o Wrecsam i Southport ddathlu wrth i'r Dreigiau ennill oddi cartref - dim ond yr ail fuddugoliaeth mewn un-ar-ddeg gêm.

Roedd yr hanner cyntaf yn agored gyda'r ddau dîm yn creu cyfleoedd, ac yn eu methu.

Andy Bishop ddaeth agosaf gydag ergyd tua diwedd yr hanner cyntaf a darodd y postyn.

Ond doedd dim rhaid aros yn hir ar ôl yr egwyl i weld rhywun yn sgorio - llai na munud a dweud y gwir.

Johnny Hunt basiodd at Jay Harris, ac fe darodd ergyd gyda'i droed dde o'r tu allan i'r cwrt i gornel isa'r rhwyd.

Fe allai fod wedi bod yn ddwy o fewn dim, ond llwyddodd golwr Southport i arbed cynnig Louis Moult.

Er i Moult orfod gadael y maes gydag anaf cyn y diwedd, llwyddodd Wrecsam ddal eu gafael ar y triphwynt.