Mountainous yn gobeithio am ail fuddugoliaeth

Welsh National winner Mountainous (right, foreground) Image copyright PA
Image caption Mountainous (dde) oedd yn fuddugol yn 2013

Fe allai ras geffylau fwyaf Cymru gael ei hennill gan yr un ceffyl am yr ail flwyddyn yn olynol pe bai Mountainous yn fuddugol yng Nghas-gwent am 14:35 ddydd Sadwrn.

Hwn fyddai'r tro cyntaf ers 1989 i'r un un ceffyl ennill Grand National Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol.

Dywed Kerry Lee dirprwy hyfforddwr Mountainous fod y ceffyl mewn siâp hynod o dda.

Y llynedd llwyddodd Mountainous, i guro Hawkes Point a Tidal Bay, y ffefryn.

"Mae'r ceffyl yn rhedeg yn dda ac rydym yn hapus iawn gyda'i safon," meddai Ms Lee.

Bonanza Boy oedd y ceffyl olaf i ennill Grand National Cymru dwy flynedd yn olynol.

Yn y cyfamser mae Michael Scudamore yn parhau i aros i weld a fydd ei frawd o ar gael i farchogaeth Monbeg Dude, enillydd 2012, yn ras heddiw.

Ond mae'n bosib y bydd yn rhaid i Tom Scudamore farchog Amigo, ceffyl ei fos David Pipe, ac os felly bydd yn rhaid i Michael Scudamore ddod o hyd i joci arall.

"Rydym yn aros i glywed am gynlluniau David Pipe," meddai Michael Scudamore.

"Mae ganddo un ceffyl yn y ras, ond hyd yma dwi ddim yn gwybod beth yn union yw ei gynlluniau."