Emperor's Choice yn fuddugol

Emperor's Choice Image copyright Getty Images
Image caption Emperor's Choice (canol ) wnaeth ennill Grand National Cymru

Mewn diweddglo cyffrous Emperor's Choice oedd yn fuddugol yn ras Grand National Cymru, yng Nghas-gwent.

Roedd ychydig ar y blaen i Benvolio a Glenquest.

Edrychai ar un adeg mai Glenquest fyddai'n fuddugol ar ôl camgymeriad gan Emperor's Choice wrth i'r ras dynnu at ei therfyn.

Ond yn y diwedd fe wnaeth Aidan Coleman ddigon i adennill y blaen.

Gorffennodd Monbeg Dude, cyn enillydd y ras, yn bedwerydd.