Gweilch 17 -15 Scarlets

Ospreys v Scarlets Image copyright Huw Evans picture agency

Roedd dau gais yn yr hanner cyntaf yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i'r Gweilch, ond cael a chael oedd hi erbyn diwedd y gem.

Mae'r canlyniad yn golygu fod y Gweilch yn diweddu'r flwyddyn ar frig tabl y Pro12.

Aisea Natoga a'r blaenasgellwr Dan Lydiate groesodd i'r tîm cartref a nhw oedd yn meistroli yr hanner cyntaf.

Er bod y Gweilch yn pwyso ar ddiwedd yr hanner fe lwyddodd yr ymwelwyr i gadw'r bwlch i wyth pwynt 17-9.

Daeth ychydig gysur y Scarlets o'u sgrym cadarn.

Wedi'r egwyl fe chwaraeodd y Scarlets i'w cryfder, gan gadw'r Gweilch i'w llinell 20 metr a chadw'r bêl yn agos.

Fe ddaeth dau cig gosb Steven Shingler a'r Scarlets o fewn dau bwynt i'r tîm cartref.

Ond er iddynt bwyso am gyfnod wedi hynny, fe wnaeth y gem orffen gyda'r Gweilch yn bygwth llinell y Scarlets.

Gweilch: Dan Evans; Hanno Dirksen, Ashley Beck, Josh Matavesi, Eli Walker; Dan Biggar, Rhys Webb; Marc Thomas, Scott Baldwin, Dmitri Arhip, James King, Alun Wyn Jones (capt), Dan Lydiate, Justin Tipuric, Tyler Ardron.

Eilyddion: Sam Parry, Gareth Thomas, Daniel Suter, Rynier Bernardo, Sam Lewis, Martin Roberts, Sam Davies, Aisea Natoga.

Scarlets: Liam Williams; Harry Robinson, Regan King, Hadleigh Parkes, Kristian Phillips; Rhys Priestland, Aled Davies; Rob Evans, Emyr Phillips, Samson Lee, Jake Ball, George Earle, Aaron Shingler, John Barclay (capt), Rory Pitman.

Eilyddion Kirby Myhill, Wyn Jones, Rhodri Jones, Lewis Rawlins, Will Boyde, Rhodri Williams, Steven Shingler, Steffan Hughes.