Caerdydd 2-4 Watford

Gabriele Angella's header capped a fine comeback win for Watford at Cardiff Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Gabriele Angella yn penio pedwaredd gol Watford

Ar ôl bod ar y blaen colli fu hanes Caerdydd, gan olygu nad yw tîm y brifddinas wedi ennill mewn pum gem.

Peniad Adam Le Fondre roddodd Caerdydd ar y blaen ond fe darodd Watford yn ôl gyda foli gan Adlene Guedioura a pheniad Odion Ighalo.

Ar yr egwyl roedd yr ymwelwyr ar y blaen 2-1.

Yna ergydiodd Guedioura i gefn y rhwyd o 30 llath, ac roedd yna beniad arall, y tro hwn i Gabriele Angella.

Er i Kenwyne Jones sgorio ail gol Caerdydd gyda pheniad yn yr amser ar gyfer anafiadau, roedd hi'n rhy hwyr.

Roedd y cefnogwyr yn ddig, nifer yn galw ar i Russell Slade gael ei ddiswyddo.

Fe roedd nifer hefyd yn anhapus gyda'i benderfyniad i eilyddio y chwarewr canol cae Tom Adeyemi - nifer yn credu mai ef oedd chwaraewr gorau Caerdydd.

Hwn oedd y trydydd tro mewn pum gem i Gaerdydd golli.