Ymosodiad: Dau yn yr ysbyty

Heddlu
Image caption Roedd yr ymosodiad ar Ŵyl San Steffan.

Bu raid i ddyn a menyw 35 oed fynd i'r ysbyty oherwydd ymosodiad ar Ŵyl San Steffan.

Roedd ymosodiad ar y ddau a menyw 26 oed am 23:25 yn Commercial Street, Tredegar, Blaenau Gwent.

Cafodd Wesley Walters, Angharad Colwell a Natasha Colwell anafiadau i'w hwynebau.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Dau ddyn ymosododd ar y tri o ardal Tredegar.

"Bu raid i'r dyn a'r fenyw 35 oed fynd i Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni."