MBE i wirfoddolwr y Sefydliad Bad Achub

Steve Davies Image copyright RNLI
Image caption Mae Steve Davies yn derbyn MBE oherwydd ei waith yn dysgu am beryglon y môr

Mae enw dyn, sydd wedi dysgu oedolion a phlant am beryglon y môr, ar Restr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2015.

Ers bron 30 o flynyddoedd mae Steve Davies, o Bontybrenin ger Abertawe wedi bod yn wirfoddolwr gyda Sefydliad y Bad Achub yn Horton a Phorth Einon ar Benrhyn Gŵyr.

Mae'r dyn 60 oed wedi bod yn aelod o'r criw, llywiwr, cydlynydd hyfforddiant, lansiwr a mecanig bad achub.

Ond mae'n fwyaf enwog o fewn y gymuned fel siaradwr am ddiogelwch y môr.

'Achub'

Am fwy nag 20 mlynedd mae wedi treulio oriau yn helpu miloedd o oedolion a phlant i adnabod peryglon y môr.

Dywedodd Paul Boissier, prif weithredwr y mudiad: "Mae Steve yn bendant wedi achub llawer o fywydau oherwydd ei sgyrsiau addysgiadol dros y blynyddoedd.

"Nid oes dim yn ormod o ymdrech iddo, ac mae gorsaf y bad achub yn derbyn llif cyson o lythyrau a rhoddion gan bobl oherwydd ei fod wedi siarad â nhw neu wedi eu helpu mewn rhyw ffordd.

"Rwyf wrth fy modd ei fod wedi cael ei gydnabod yn y Rhestr Anrhydeddau."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.