'Eitemau gwerthfawr' wedi eu dwyn

Lladrad
Image caption Mae'r heddlu'n ymchwilio i'r lladrad ddigwyddodd brynhawn neu nos Lun

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth wedi i "nifer o eitemau gwerthfawr" gael eu dwyn o dŷ ar Ragfyr 29.

Roedd y lladrad rhwng 13:45 a 19:40 ar Ragfyr 29 yn ardal Waunceirch, Castell-nedd.

Nid oedd y perchnogion gartre a'r gred yw bod y troseddwr wedi dianc ar hyd llwybr i Heol Taillwyd yn Abaty Nedd.

Dywedodd y Ditectif Sarjant Nigel Morgan: "Mae'r eitemau'n werth miloedd o bunnoedd ac yn cynnwys watsh arian Heuer, modrwy aur, gemwaith, mwclis a breichledau."

Dylai unrhywun â gwybodaeth neu a welodd unrhywun yn ymddwyn yn amheus yn yr ardal brynhawn neu nos Lun ffonio 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111, gan ddyfynnu 1400482809.