Ymchwiliad: 'Teithwyr yng nghab y gyrrwr'

Trên Arriva Cymru Image copyright PA
Image caption Mae'r cwmni wedi ymddiheuro am fod y trên yn llawn

Mae ymchwiliad i honiadau bod rhai ar drên Trenau Arriva Cymru ddydd Sadwrn, Rhagfyr 27, wedi gorfod teithio yng nghab y gyrrwr yn ystod rhan o'r siwrne oherwydd bod y trên yn llawn.

Mae'r cwmni wedi ymddiheuro bod y trên yn llawn.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Roedd rhai o'n trenau yn ofnadwy o brysur ... does dim cyfyngiad penodol ar nifer y cwsmeriaid sy'n cael teithio ar drên yr un pryd."

Ar Ragfyr 27 a 28, meddai, nid oedd gwasanaethau Virgin Trains i ac o ogledd Cymru oherwydd gwaith peirianyddol rhwng Watford a Llundain Euston ac roedd hyn yn golygu mwy o bwysau ar y rhaon hon o'r rhwydwaith.

"Tra ein bod ni wedi gwneud popeth o fewn ein gallu er mwyn darparu mwy o le, hoffen ni ymddiheuro i'n cwsmeriaid gafodd eu heffeithio y penwythnos diwethaf.

"Er gwaethaf y ffaith bod ein trenau wedi bod yn ofnadwy o brysur dros y penwythnos, ni fydden ni'n caniatáu iddyn nhw deithio yng nghab y gyrrwr a hyn oherwydd rhesymau diogelwch."

Straeon perthnasol