Canfod corff ar draeth: Heddlu'n ymchwilio

Image copyright Richard Knights
Image caption Fe gafodd yr heddlu eu galw i draeth Yr As Fawr ddydd Calan.

Mae'r heddlu'n ymchwilio ar ôl i gorff dyn ei ganfod ar draeth ym Mro Morgannwg.

Galwyd swyddogion i draeth Yr As Fawr, ger Llanilltud Fawr, am 00:25 ddydd Calan ar ôl i'r corff gael ei ddarganfod.

Mae ei berthnasau wedi cael gwybod ac mae'r broses o adnabod y corff yn ffurfiol wedi ei drefnu.

Mae ymchwiliad i amgylchiadau ei farwolaeth yn parhau ar ran y crwner.