Abertawe yn arwyddo chwaraewr canol cae

Matt Grimes Image copyright Empics

Mae CPD Dinas Abertawe wedi arwyddo'r chwaraewr canol cae Matt Grimes sy'n chwarae i Gaerwysg yn yr Ail Gynghrair.

Mae'r llanc 19 oed wedi ymuno ag Abertawe am ffi o tua £1.75 miliwn, gan dorri record gwerthiant trosglwyddo Caerwysg, oedd yn £500,000.