Amddiffynfeydd llifogydd wedi achub 75,000 o gartrefi

Promenâd Aberystwyth Image copyright Athena Pictures
Image caption Roedd Aberystwyth a'r Borth yng Ngheredigion ymysg y llefydd welodd y llifogydd gwaethaf.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud bod amddiffynfeydd llifogydd wedi achub 75,000 o gartrefi yng Nghymru y llynedd pan gafodd ardaloedd arfordirol eu heffeithio gan stormydd a llanw uchel.

Dros sawl diwrnod ym mis Ionawr llynedd cafodd lonydd a phalmentydd eu hysgubo o'r neilltu, cafodd adeiladau eu difrodi a bu'n rhaid i'r heddlu gadw pobl oddi wrth y môr.

Roedd tua 300 o gartrefi wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd, ac roedd Aberystwyth a'r Borth yng Ngheredigion ymysg y llefydd welodd y llifogydd gwaethaf.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru mai er bod amddiffynfeydd llifogydd yn bwysig, dylai pobl hefyd fod â'u cynlluniau llifogydd eu hunain.

'Digwydd eto'

Tra bod llanw mawr a phwerus yn anghyffredin, dywedodd Jeremy Parr, pennaeth rheoli risg llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru, ei fod yn fwy tebygol oherwydd newidiadau i'r tywydd sydd wedi eu hachosi gan newid hinsawdd.

Dywedodd: "Tydan ni heb weld unrhyw beth fel yr hyn ddigwyddodd y llynedd yn y gorffennol diweddar.

"Roedd effaith y tywydd mor eang - cafodd holl arfordir Cymru ei effeithio.

"Gallai'r cyfuniad o lanw uchel, stormydd a gwyntoedd cryfion, ddigwydd eto."

Ychwanegodd bod y llifogydd wedi dinistrio rhai o'r amddiffynfeydd gan achosi difrod gwerth £10 miliwn.

Ond dywedodd mai heb yr amddiffynfeydd y byddai'r difrod wedi bod yn llawer gwaeth.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn amcangyfrif y byddai 75,000 o gartrefi wedi dioddef llifogydd gan achosi niwed gwerth £3 biliwn, pe bai'r amddiffynfeydd ddim yn bodoli.

Dywedodd Mr Parr bod y rhan fwyaf o'r amddiffynfeydd bellach wedi cael eu trwsio, ond rhybuddiodd bod angen gwneud mwy er mwyn sicrhau diogelwch cymunedau yn y dyfodol.

Image copyright Athena Pictures
Image caption Cafodd rhan helaeth o bromenâd Aberystwyth ei ddifrodi yn ystod y stormydd.

'Amhosibl atal llifogydd'

Ychwanegodd: "Mae hi'n amhosibl atal llifogydd rhag digwydd yn y lle cyntaf, ond mae modd paratoi'n well ar eu cyfer.

"Mae modd adeiladu amddiffynfeydd ac mae mwy o waith i'w wneud ar drwsio amddiffynfeydd byth a beunydd.

"Ond mae 'na fwy iddi na hynny'n unig. Mae angen sicrhau bod cymunedau wedi paratoi'n well, drwy sicrhau eu bod yn cydweithio ar gynlluniau llifogydd.

"Mae angen sicrhau bod gan unigolion gynllun ar gyfer eu cartref os oes llifogydd. Mae angen i bobl gydweithio ynglŷn â phethau fel sicrhau bod perthnasau hŷn yn derbyn cymorth."

Cafodd rhan helaeth o bromenâd Aberystwyth ei ddifrodi yn ystod y stormydd, a bu'n rhaid i bobl oedd yn byw ac yn gweithio ger y môr adael eu cartrefi a'u gweithleoedd.

Roedd ffyrdd a rheilffyrdd ar draws y wlad wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd gan effeithio ar deithwyr am rai dyddiau.

Straeon perthnasol