A yw Llenorion Cymru ar eu colled oherwydd Dylan Thomas?

Dylan Thomas Image copyright Getty Images
Image caption Gwariodd Llywodraeth Cymru £1.6 miliwn ar ddathliadau Dylan Thomas.

Ar ddechrau blwyddyn i nodi canmlwyddiant T.Llew Jones - mae academydd blaenllaw wedi lleisio pryder y gallai llenorion eraill o Gymru cael eu gwthio i'r cysgod ar ôl buddsoddiad y Llywodraeth er cof am Dylan Thomas.

Mae'r Athro M.Wynn Thomas yn croesawu cyhoeddiad Diwrnod Dylan - diwrnod blynyddol o ddathlu'r bardd fydd yn cael ei gynnal ar 14 Mai - ond mae am weld mwy yn cael ei wneud i gofio llenorion eraill.

Gwariodd Llywodraeth Cymru £1.6 miliwn ar ddathliadau Dylan Thomas, ac roedd arian ychwanegol gan, ymhlith eraill, y cyngor celfyddydau, y Cyngor Prydeinig a chynghorau lleol i dalu am y digwyddiadau.

Ond yn ystod canmlwyddiant geni R.S Thomas yn 2013 doedd dim buddsoddiad penodol gan y llywodraeth, er i rai sefydliadau fel y Cyngor Celfyddydau a Llenyddiaeth Cymru ariannu a threfnu digwyddiadau.

'Gwthio llenorion i'r cysgodion'

Dywedodd yr Athro M. Wynn Thomas: "Mae'n dda iawn gen i glywed bod y llywodraeth yn bwriadu parhau i gefnogi llenyddiaeth Cymru. Mae hynny werth y byd.

"Fy nghofid i yw os nag y'n nhw'n ofalus fe allan nhw wthio gweddill llenorion Cymru i'r cysgodion. Gan ganolbwyntio yn gyfan gwbwl ar Dylan Thomas, gan roi'r argraff anffodus taw Dylan Thomas yw'r unig awdur o bwys yma yng Nghymru.

"Dyw hynny ddim yn wir. Ac yn anffodus mae yna achos yn enghraifft R.S Thomas o un dwi'n credu a gafodd llai na'i haeddiant y llynedd."

A beth am awduron eraill o Gymru?

Yr un wythnos a chanmlwyddiant Dylan Thomas eleni cafodd y plac glas ei ddadorchuddio er cof am Vernon Watkins. Bardd arall o Abertawe a ffrind da i Dylan oedd yn edmygu ei waith. Ond ni chafodd y plac na'r bardd fawr o sylw yn ystod y flwyddyn.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Dylan Thomas

'Cyfoeth llenyddol'

Mae Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn, wedi ymateb drwy ddweud: "Mae'r ffaith bod ni wedi llwyddo i gael y buddsoddiad mwyaf mewn llenyddiaeth i ddathlu Dylan Thomas yn rhoi hyder.

"Ac wrth edrych ymlaen i'r dyfodol mae canmlwyddianau eraill yn dod yn ddigon cyflym a gobeithio nawr bod y bobl yn Llywodraeth Cymru ac yn Croeso Cymru yn gallu gweld mae un o'r ffyrdd gorau i werthu Cymru ac i godi ein proffil yn rhyngwladol yw trwy ein cyfoeth llenyddol."

Can mlynedd ers geni brenin llên plant Cymru, T Llew Jones, mae'r Llywodraeth yn dweud y byddan nhw'n parhau i hyrwyddo awduron o Gymru, yn y ddwy iaith, ac mai bwriad dathliadau Dylan Thomas oedd annog pobl o bob oed i ymddiddori mewn pob math o lenyddiaeth Gymreig.

Straeon perthnasol