Dau yn yr ysbyty yn dilyn tân 'difrifol' yn y Fenni

Monk Street Image copyright Kevin Heath
Image caption Roedd yn rhaid i ddiffoddwyr atal y tân rhag lledaenu i adeiladau cyfagos.

Mae'r heddlu yn ymchwilio ar ôl i ddau berson gael eu cludo i'r ysbyty yn dilyn tân 'difrifol' mewn tŷ bwyta.

Image copyright Andrew Disson

Fe fydd un o'r prif ffyrdd drwy'r Fenni yn debygol o fod ar gau am y rhan fwyaf o ddydd Sadwrn yn dilyn y tân mewn bwyty Indiaidd ar Heol y Mynaich.

Fe gafodd criwiau tân eu galw am 03:26 ac fe achubwyd tri o bobl o adeiladau cyfagos.

Mae'r A40 Heol y Mynaich ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng Heol y Castell Isaf a Heol y Llew oherwydd y tân.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod y "tân yn un difrifol", ond ei fod bellach o dan reolaeth.

Ar un adeg, roedd wyth injan dân yn bresennol, ac roedd yn rhaid symud pobl o ardaloedd cyfagos wrth iddynt frwydro i atal y tân rhag lledaenu.

Mae pump o griwiau tân yn parhau i fod ar y lleoliad.

Fe fydd yr Heddlu a'r gwasanaeth tân yn ymchwilio i achos y tân.

Image copyright Kevin Heath