Tranmere Rovers 2-6 Abertawe

Abertawe Image copyright Getty Images

Fe darodd Bafetimbi Gomis ddwywaith wrth i Abertawe amlygu'r gwahaniaeth yn y safon rhyngddynt a Tranmere Rovers sy'n chwarae yn yr ail adran.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu y bydd Abertawe yn ymuno â Chaerdydd ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr.

Yn yr hanner cyntaf, fe sgoriodd Nathan Dyer gôl gyntaf yr Elyrch, gydag ymdrechion safonol gan Modou Barrow a'r chwaraewr sydd ar fenthyg Tom Carroll i ddilyn.

Fe darodd Max Power yn ôl, cyn i Gomis a Cole Stockton ychwanegu at y sgôr.

Fe sgoriodd Wayne Routledge, a ddaeth i'r cae fel eilydd, yn dilyn penderfyniad i wyrdroi gwaharddiad yn ei erbyn dydd Gwener, cyn i Gomis sgorio ei ail gôl ym munudau olaf y gêm.