Pro 12: Scarlets 22-10 Gweilch

Scarlets v Gweilch Image copyright Huw Evans picture agency

Fe hawliodd y Scarlets eu buddugoliaeth gyntaf yn erbyn y Gweilch ers 2011 gyda pherfformiad egniol ym Mharc y Scarlets brynhawn Sadwrn.

Fe wnaeth Liam Williams argraff dda wrth iddo groesi am gais yn yr hanner cyntaf, a llwyddodd Rhys Priestland i drosi tair gwaith cyn yr egwyl gan roi'r tîm cartref ar y blaen o 14 pwynt i dri ar yr hanner.

Fe lwyddodd cais gan John Barclay a chic gosb arall gan Priestland i ymestyn mantais y Scarlets o 22 pwynt i dri ar ddechrau'r ail hanner.

Er gwaethaf ymgais gan Dan Evans i roi gobaith i'r Gweilch, fe amddiffynnodd y Scarlets yn gadarn er mwyn gwarchod eu mantais a rhoi terfyn ar rediad o fod wedi colli pum gwaith yn olynol yn erbyn eu gelynion yn y gorllewin.

Fe orffenodd y gem Scarlets 22-10 Gweilch.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Roed y tensiynau yn amlwg wrth i ddau o ranbarthau'r gorllewin gwrdd ar Barc y Scarlets

Timau

Scarlets: Liam Williams; Hadleigh Parkes, Regan King, Scott Williams (capten), Michael Tagicakibau; Rhys Priestland, Aled Davies; Rob Evans, Kirby Myhill, Samson Lee, Jake Ball, Joe Snyman, Aaron Shingler, John Barclay, Rob McCusker.

Ar y fainc: Ryan Elias, Wyn Jones, Rhodri Jones, George Earle, Will Boyde, Gareth Davies, Steven Shingler, Jordan Williams.

Gweilch: Dan Evans; Hanno Dirksen, Ashley Beck, Josh Matavesi, Aisea Natoga; Dan Biggar, Martin Roberts; Marc Thomas, Scott Baldwin, Dmitri Arhip, James King, Alun Wyn Jones (capten), Dan Lydiate, Justin Tipuric, Tyler Ardron.

Ar y fainc: Sam Parry, Duncan Jones, Aaron Jarvis, Rynier Bernardo, Sam Lewis, Sam Davies, Tom Grabham.

Dyfarnwr: John Lacey (Iwerddon)