Llofruddiaeth Caerdydd: Y chwilio'n parhau

Nadine Aburas a Sammy Almahri Image copyright South Wales Police
Image caption Mae'n debyg fod Nadine Aburas a Sammy Almahri yn gyfeillion

Mae heddlu ledled y byd yn parhau i chwilio am ddyn wedi i gorff menyw gael ei ganfod mewn gwesty yng Nghaerdydd ar Nos Galan.

Fe wnaeth Sammy Almahri, 44 o Efrog Newydd, gwrdd â Nadine Aburas yng ngwesty'r Future Inn ym Mae Caerdydd ar 30 Rhagfyr, bedwar diwrnod wedi iddo hedfan o UDA i'r DU.

Fe adawodd o'r wlad ar 31 Rhagfyr - mae heddlu'n credu ei fod o yn Tanzania.

Image copyright South Wales Police
Image caption Fe ryddhaodd yr heddlu lun CCTV o Almahri ym Mae Caerdydd

Nawr, mae Heddlu'r De yn gweithio gyda lluoedd yn Efrog Newydd a Tanzania i geisio dod o hyd i Mr Almahri.

Mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Sul, fe ddywedodd swyddogion fod y ddau yn gyfeillion ers tair blynedd - wedi iddyn nhw gyfarfod ar y we - a'u bod wedi cwrdd yn Efrog Newydd yn ystod yr amser hwnnw.

Fe wnaeth y ddau gyrraedd y Future Inn o fewn hanner awr i'w gilydd ar 30 Rhagfyr. Fe adawon nhw'r gwesty am 10.00pm y noson honno, a dychwelyd awr wedi hynny.

Bum awr wedi hynny, fe adawodd Mr Almahri, a chredir ei fod wedi archebu sedd ar awyren a theithio o Heathrow i Doha yn Qatar, cyn hedfan o'r fan honno i Tanzania.

Fe gafodd corff Ms Aburas ei ganfod am hanner dydd Nos Galan.

Mae heddlu'n rhybuddio fod Mr Almahri yn beryglus, ac yn cynghori unrhywun sy'n dod ar ei draws i roi gwybod i'r heddlu ar unwaith.

Straeon perthnasol