'Dim defnydd' o gynllun addysg ar-lein

Hwb+

Dyw adnodd dysgu ar-lein a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru "prin yn cael ei ddefnyddio", yn ôl Plaid Cymru.

Bwriad cynllun Hwb+ yw rhoi cymorth i athrawon a disgyblion, ac mae wedi costio oddeutu £4.5 miliwn ers iddo gael ei sefydlu yn 2012.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud fod y cynllun yn "hynod o boblogaidd gydag athrawon a disgyblion".

"Mae ffigyrau diweddar yn dangos bod dros 98% o ysgolion wedi sefydlu safle Hwb+," meddai llefarydd.

Bwriad Hwb+ yw galluogi disgyblion ac athrawon i ymdrin yn well ag adnoddau ar-lein, a galluogi i ddefnyddwyr rannu gwybodaeth â'i gilydd.

Estyniad

Mae 529,481 o ddisgyblion wedi creu cyfrif ar y safle ers iddo gael ei sefydlu, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Ond yn ôl Plaid Cymru, mae ffigyrau a ddaeth i law ar ôl cais rhyddid gwybodaeth yn dangos mai 162,937 o weithiau y mae Hwb+ wedi cael ei ddefnyddio rhwng mis Medi a Thachwedd 2014.

Dywed y blaid fod y wybodaeth yn dangos mai "dim ond 31%, ar y mwyaf, o gyfrifon Hwb+" gafodd eu defnyddio yn y cyfnod yma.

Dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru Simon Thomas AC:

"Mae'r syniadau tu ôl i Hwb+ yn rhai da mewn egwyddor, ond, fel gwelwn yn aml gyda Llywodraeth Cymru, dyw ddim yn gweithio yn ymarferol."

Fe fydd £4,452,500 yn cael ei wario ar y cynllun rhwng Medi 2012 ac Awst 2015, ac mae'r Gweinidog Addysg Huw Lewis wedi cyhoeddi estyniad i'r cynllun hyd Ragfyr 2018.

"Mae'r cynllun wedi cael ei ehangu, ac fel rhan o hyn fe fydd Rhaglen Canolfannau Rhagoriaeth Hwb+ yn cael ei gomisiynu, a bydd hyn yn arwain at gynnydd yn y nifer sy'n mabwysiadu Hwb+ mewn ysgolion ledled Cymru," meddai llefarydd ar ran Llywoddraeth Cymru.

"Fe fydd 18 o ganolfannau Hwb+ yn cael eu sefydlu mewn ysgolion, a bydd hynny'n rhoi cyfle i ysgolion eraill ac awdurdodau lleol a staff consortia addysg rhanbarthol i weld sut mae Hwb+ wedi gwneud gwahaniaeth positif i addysgu."

Dywed Owen Hathway o undeb yr NUT y bydd rhai yn y proffesiwn yn sicr o gwestiynu pam bod £4.5 miliwn wedi ei wario ar y we yn hytrach na hyfforddi athrawon neu sicrhau bod adeiladau a dosbarthiadau o safon addas.

"Rydym i gyd yn gwybod fod arian ar gyfer ysgolion yn ofnadwy o dynn ac rydym yn gweld cyllidebau ledled awdurdodau lleol yn cael eu torri, a bydd hynny yn arwain i brinder athrawon," meddai Mr Hathway.

Mae pum aelod o staff yn cael eu cyflogi gan Lywodraeth Cymru i weithio ar gynlluniau addysgu ar-lein, yn cynnwys Hwb+.