Jonathan Edwards yn ennill yng Ngwobrau Llyfrau Costa

Jonathan Edwards Image copyright Costa Book Awards
Image caption Mae Jonathan Edwards yn defnyddio ei deulu fel ysbrydoliaeth i'w gerddi.

Mae athro Saesneg o dde Cymru, sydd hefyd yn barddoni, wedi ennill y categori barddoniaeth yng Ngwobrau Llyfrau Costa 2014.

Cipiodd Jonathan Edwards y wobr gyntaf am ei gyfrol o farddoniaeth o'r enw 'My Family and Other Superheroes'.

Mae'r casgliad yn cynnwys cymeriadau mor amrywiol â Sophia Loren, Ian Rush, Evel Knievel a lleian ar gefn beic, yn ogystal â chymeriadau o gymoedd y de.

Yn frodor o bentref Crosskeys yn Sir Caerffili, cafodd Jonathan Edwards ei eni yn 1979.

Enillodd râdd MA o Brifysgol Warwick, ac mae ei waith wedi ei gyhoeddi mewn nifer o gylchgronnau a chyhoeddiadau barddonol yn y gorffennol.

Enillodd wobrau yng Nghystadleuaeth Farddoniaeth Ryngwladol Caerdydd yn 2012, a gwobr Gwŷl Farddoniaeth Ledbury yn 2014.

Wrth ddisgrifio'r gyfrol fuddugol, dywedodd y beirniaid: ''Dydyn ni ddim wedi cael cymaint o hwyl yn darllen casgliad o gerddi ers amser maith. Yn hapus, gwych a theimladwy - mae hwn yn fardd i'w ddathlu''

Mae cyfrol Jonathan Edwards yn un o bum llyfr sydd wedi ennill gwobrau mewn categorïau gwahanol yng Ngwobrau Llyfrau Costa, ac fe fydd y pum llenor buddugol nawr yn brwydro am deitl Llyfr y Flwyddyn Costa.

Fe fydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi ddiwedd y mis.