Llofruddiaeth Caerdydd: Apêl mam

Nadine Aburas a Sammy Almahri Image copyright South Wales Police
Image caption Nadine Aburas a Sammy Almahri

Mae mam Nadine Aburas wedi gwneud apêl emosiynol i'r dyn sy'n cael ei amau o lofruddio ei merch i ildio ei hun i'r awdurdodau.

Cafwyd hyd i gorff Nadine Aburas mewn gwesty yng Nghaerdydd ar Nos Galan.

Roedd ei mam, Andrea Aburas, 58, yn siarad mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Llun wrth i gyrch rhyngwladol fynd rhagddo i ddod o hyd i Sammy Almahri, sy'n 44 oed.

Y gred yw fod y dyn o Efrog Newydd wedi hedfan i Tanzania ar 31 Rhagfyr.

Yn y gynhadledd i'r wasg dywedodd Andrea Aburas: "Fe wnaethoch ddweud wrthym eich bod yn caru Nadine - os yw hynny'n wir yna plîs gadewch i'r heddlu eich helpu."

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru eu bod yn gweithio gyda'r awdurdodau yn yr Unol Daleithiau a Tanzania wrth geisio dod o hyd i Almahri.

Mae heddlu'n rhybuddio'r cyhoedd fod Almahri yn beryglus, ac yn cynghori unrhyw un sy'n dod ar ei draws i roi gwybod i'r heddlu ar unwaith.

Image copyright South Wales Police
Image caption Fe ryddhaodd yr heddlu lun CCTV o Almahri ym Mae Caerdydd

Straeon perthnasol