Gwerthu cwmni cemegau Warwick Chemicals o Sir y Fflint

Warwick Chemicals Image copyright Google
Image caption Mae Warwick Chemicals yn berchen ar waith cynhyrchu cemegau ym Mostyn, Sir y Fflint

Mae cwmni cynhyrchu cemegau Warwick Chemicals yn Sir y Fflint wedi cael ei werthu i gwmni o'r Unol Daleithiau.

Bydd y cwmni, sydd â'i bencadlys ym Mostyn, yn cadw ei enw pan fydd yn dod yn rhan o gwmni Lubrizol Advanced Materials.

Mae cwmni Lubrizol, o Ohio, yn cynhyrchu cynhwysion cemegol ar gyfer cynnyrch gofal cartref a gofal personol.

Cafodd Warwick Chemicals ei sefydlu yn 1958 ac fe gafodd ei brynnu gan reolwyr y cwmni yn 2008, pan oedd yn nwylo cwmni arall o'r Unol Daleithiau.

Dywed y cwmni ei fod yn rhedeg y gwaith cynhyrchu cemegau mwyaf o'i fath yn y byd ym Mostyn, ac mae cynnyrch y cwmni i'w weld mewn nifer fawr o hylifau a phowdr golchi.

Meddai prif swyddog gweithredol Warwick Chemicals, Steve Williams:

CEO, Steve Williams said: "Mae'r ffaith fod Lubrizol wedi prynu Warwick yn newyddion gwych i ddyfodol y safle ym Mostyn...Bydd adnoddau Lubrizol yn ein helpu i dyfu'r busnes yn gyflymach ac ehangu i farchnadoedd ac ardaloedd newydd."