Tân yng Nghaerdydd: Dau wedi eu hanafu

Tân Caerdydd Image copyright Matthew Horwood
Image caption Cafodd diffoddwyr tân eu galw i'r tŷ ar Ffordd Heathwood am 18:44yh, wedi i'r tân gychwyn mewn ystafell wely.

Mae dau o bobl wedi derbyn triniaeth am effeithiau mwg yn dilyn tân difrifol mewn tŷ yng Nghaerdydd.

Cafodd diffoddwyr tân eu galw i'r tŷ ar Ffordd Heathwood am 18:44yh, wedi i'r tân gychwyn mewn ystafell wely.

Cafodd criwiau o orsafoedd tân Caerdydd Canolog a'r Rhath eu hanfon i ymdrin â'r digwyddiad, gan gynnwys tair injan dân.