Clwb pêl-droed Caerdydd yn newid eu crysau yn ôl i las

Some Cardiff City fans maintained a long campaign to revert back to the club's traditional home colours Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae'r cefnogwyr wedi bod yn ymgyrchu am gael dychwelyd y ôl i las

Mae clwb pêl-droed Caerdydd i newid eu crysau cartref yn ôl o goch i las.

Fe wnaeth y perchennog Vincent Tan roi caniatâd i'r newid ar ôl cyfarfod rhwng swyddogion y clwb a nifer o'r cefnogwyr yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Iau.

Fe wnaeth Tan, oedd ym Malaysia, gytuno i'r newid ar ôl trafodaeth dros y ffôn gydag aelodau o fwrdd rheoli y clwb.

Fe fydd bathodyn y clwb hefyd yn newid, gyda lle mwy amlwg yn cael ei roi i'r mascot, yr aderyn glas. Coch fydd lliw crysau oddi-cartref y clwb o hyn allan.

Penderfynodd y perchennog newid y crysau i goch ym Mehefin 2012, er gwaethaf gwrthwynebiad y mwyafrif llethol o gefnogwyr.

Buddsoddi

Mae Tan wedi buddsoddi yn helaeth yn y clwb.

Yn Ionawr 2014 fe wnaeth Caerdydd gyhoeddi colledion o £30m ar gyfer tymor 2012-13, pan gafodd y clwb ddyrchafiad i'r uwch-gynghrair.

Golygai hynny fod cyfanswm dyledion y clwb wedi codi i £118 miliwn, gyda £66m yn ddyledus i Tan.

Ddydd Sadwrn fe fydd Caerdydd yn chwarae gartref i Fulham.

Mae'r rheolwr Russell Slade wedi croesawu'r penderfyniad i ddychwelyd yn ôl i'r crys glas.

"Mae hwn yn gyfle gwych i adeiladu platfform newydd, a gosod y seiliau er mwyn ailadeiladu a dechrau eto," meddai.

"Os ydych am fod yn llwyddiannus mewn unrhyw fusnes, mewn unrhyw glwb pêl-droed, mae'n rhaid i bawb gydweithio fel uned.

"Pe bai ni'n gallu chwarae mewn glas ddydd Sadwrn byddwn yn disgwyl yr awyrgylch gorau rwyf i wedi ei brofi, ac mae'n debyg bod hynny'n wir am rai o'r chwaraewyr.

"Byddai'r awyrgylch gorau er peth amser.

"Rydym o hyd yn edrych am fomentwm, ac fe allai hwn roi sbardun i ni gyrraedd y gemau ailgyfle, ond mae hynny'n fater i'r chwaraewyr yn ogystal â'r cefnogwyr'', meddai.

Image caption Vincent Tan: Buddsoddi'n helaeth

Straeon perthnasol