Bygwth Chris Bryant AS ar Twitter

Chris Bryant
Image caption Derbyniodd Chris Bryant AS fygythiad wedi iddo wneud sylwadau am yr ymosodiadau terfysgol ym Mharis

Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i fygythiad yn erbyn Aelod Seneddol Rhondda Chris Bryant ar wefan gymdeithasol.

Derbyniodd Mr Bryant nifer o negeseuon bygythiol ar wefan Twitter, gan gynnwys bygythiad i fomio ei swyddfa.

Daeth y bygythiad o gyfrif Twitter o'r enw @jesuischarlie1. Mae'r cyfrif hwnnw bellach wedi ei gau.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru: ''Rydym wedi derbyn adroddiadau ac rydym yn ymchwilio.''

Image copyright Twitter