Rygbi Pro12: Glasgow 22 - Scarlets 7

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Rhys Priestland yn y glaw yn Glasgow

Colli o 22 i 7 oedd hanes y Scarlets ar gae Glasgow Warriors nos Wener, gyda'r gêm yn cael ei chwarae mewn amgylchiadau anodd wrth i'r gwynt a'r glaw hyrddio yn Stadiwm Scotstoun.

Alex Dunbar oedd y cyntaf i sgorio ar y noson - gyda chais i'r tîm cartref wedi 27 munud. Methodd Finn Russell a chicio rhwng y pyst, wrth i'r gwynt wneud y dasg yn anoddach.

Llwyddodd Liam Williams i daro nôl i'r Scarlets gyda chais wedi 39 munud. Aeth y Scarlets ar y blaen yn dilyn trosiad gan Rhys Priestland, ychydig cyn yr hanner.

Ond yn fuan a'r ddechrau'r ail hanner fe sgoriodd y tîm cartref - cais y tro hwn i Peter Murchie, a chic gelfydd wedi ei throsi gan Finn Russell.

Yn fuan wedyn cafodd Liam Williams ei eilyddio yn dilyn anafu ei ysgwydd, gyda Jordan Williams yn dod i'r cae yn ei le.

Gyda chwarter awr yn weddill, llwyddodd Finn Russell i ymestyn y bwlch rhwng y tîm cartref a'r ymwelwyr gyda chic gosb - y sgor yn 15-7.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i'r Scarlets bum munud yn ddiweddarach wrth i DTH van der Merwe dderbyn pas Niko Matawalu a sgorio cais i Glasgow, a'r gic yn cael ei throsi unwaith eto gan Russell.

Ar y chwiban olaf, Glasgow Warriors oedd y fuddugol o 22-7.

Glasgow: Peter Murchie; Tommy Seymour, Alex Dunbar, Peter Horne, Sean Lamont; Finn Russell, Niko Matawalu; Jerry Yanuyanutawa, Pat MacArthur, Mike Cusack, Tim Swinson, Jonny Gray, Leone Nakarawa, Ryan Wilson, Josh Strauss (capten).

Ar y fainc: Fraser Brown, Ryan Grant, Euan Murray, James Eddie, Will Bordill, Ali Price, James Downey, DTH van der Merwe.

Scarlets: Liam Williams; Hadleigh Parkes, Regan King, Scott Williams (capten), Michael Tagicakibau; Rhys Priestland, Aled Davies; Rob Evans, Ryan Elias, Jacobie Adriaanse, Jake Ball, Johan Snyman, Aaron Shingler, Rob McCusker, John Barclay.

Ar y fainc: Torin Myhill, Wyn Jones, Peter Edwards, George Earle, Lewis Rawlins, Gareth Davies, Steven Shingler, Jordan Williams.

Dyfarnwr: George Clancy