Ceisio gostwng nifer y marwolaethau

Dyn oedrannus
Image caption Mae'r disgwyliad oes cyfartalog i ddynion yng Nghymru yn 78.2 oed, ond mae'r disgwyliad oes i ddynion sy'n byw ym Mlaenau Gwent yn 75.7 oed.

Mae cynllun newydd wedi ei lansio i geisio lleihau nifer y bobl yn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru sy'n marw cyn eu hamser o glefyd cardiofasgiwlar neu ganser.

Yng Nghymru mae gwahaniaeth sylweddol rhwng y gyfradd o farwolaethau y mae modd eu hosgoi yn y grwpiau socio-economaidd mwyaf a lleiaf difreintiedig.

Mae'r disgwyliad oes cyfartalog i ddynion yng Nghymru yn 78.2 oed, ond mae'r disgwyliad oes i ddynion sy'n byw ym Mlaenau Gwent yn 75.7 oed - sydd ymysg y pump isaf yng Nghymru a Lloegr.

Wrth siarad yn ystod lansiad cynllun Byw yn Dda Byw yn Hirach Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan , dywedodd dirprwy weinidog iechyd, Vaughan Gething fod angen gwneud mwy i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb ym maes iechyd yng Nghymru - er gwaethaf gwelliannau mewn disgwyliad oes.

Profion iechyd

Mae'r cynllun Byw yn Dda Byw yn Hirach wedi darganfod mai clefyd cardiofasgiwlar a chanser yw rhai o'r prif achosion o farwolaeth cyn amser yn yr ardal.

Mae clefyd cardiofasgiwlar a chanser yn rhannu nifer o ffactorau cyffredin, gan gynnwys deiet gwael, diffyg ymarfer corff, ysmygu ac yfed gormod o alcohol.

Yn ystod rhan gyntaf y cynllun Byw yn Dda Byw yn Hirach bydd y bobl sy'n wynebu'r risg uchaf o ddatblygu clefyd cardiofasgiwlar yn cael cynnig prawf iechyd, fydd yn cynnwys cwestiynau am eu ffordd o fyw a hanes teuluol, ynghyd â phrofion pwysau gwaed, curiad calon a cholesterol.

Bwriad y profion yw asesu'r risg y bydd pobl yn datblygu clefyd cardiofasgiwlar yn y 10 blynedd nesaf.

Bydd canlyniadau'r profion yn cael eu defnyddio er mwyn creu rhestr o'r camau mae angen eu cymryd i leihau'r risg o glefyd cardiofasgiwlar neu ganser.

'Angen gwneud mwy'

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £300,000 i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn 2014-15, er mwyn gwella gofal cynradd a chymunedol fydd yn cefnogi'r cynllun newydd.

Dywedodd Mr Gething: "Er gwaethaf gwelliannau mewn disgwyliad oes, mae angen gwneud mwy i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb annerbyniol rhwng y cymunedau lleiaf a mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

"Mae modd gwneud llawer drwy fynd i'r afael ag anghydraddoldebau ble maen nhw'n cychwyn - drwy wella deiet, gwneud mwy o ymarfer corff, rhoi'r gorau i ysmygu ac yfed alcohol yn gymhedrol.

"Cafodd byrddau iechyd prifysgol Aneurin Bevan a Chwm Taf eu dewis i arwain y cynllun oherwydd bod yr ardaloedd yma'n profi rhai o'r anghydraddoldebau mwyaf. Bydd casgliadau'r cynllun Byw yn Dda Byw yn Hirach yn helpu i ddatblygu gwaith tebyg ar draws Cymru."