Sameena Imam: Cyhuddo dau frawd o lofruddiaeth

Sameena Imam Image copyright Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr
Image caption Cafodd Sameena Imam ei gweld ddiwethaf tu allan i'w gwaith yn Coventry

Mae Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr wedi cyhuddo dau frawd o lofruddio Sameena Imam o Gaerdydd.

Cafodd Roger Cooper, 40, o Coventry a David Cooper, o Leicester eu cyhuddo ddydd Gwener ac fe fydd y ddau yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Birmingham fore Sadwrn.

Cafodd Sameena Imam, 34, ei gweld am y tro diwethaf tu allan i'w gwaith yn Coventry noswyl Nadolig.

Dywedodd y ditectif uwch-arolygydd Mark Payne o Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr: "Mae hwn yn ddatblygiad arwyddocaol ac rydym yn cydymdeimlo gyda theulu a ffrindiau Sameena yn ystod yr amser yma.''