Abertawe 1-1 West Ham

Abertawe v West Ham Image copyright Reuters

Er gwaethaf cyfleoedd i'r ddau dîm drwy gydol yr hanner cyntaf, dim ond wedi 43 munud y llwyddodd West Ham i fynd ar y blaen, a hynny diolch i gôl Andy Carroll.

Roedd peth trafodaeth am yr ail gôl, gyda Bafetimbi Gomis yn ei hawlio, ond cafodd ei nodi'n swyddogol fel gôl i'w rwyd ei hun gan Mark Noble.

Roedd y ddau dîm am y gorau i sgorio i sicrhau buddugoliaeth yn y munudau olaf, ond ofer fu'r ymdrechion, gyda'r gêm yn dod i ben, 1-1.