Caerdydd 1-0 Fulham

Caerdydd v Fulham Image copyright Wales News Service

Wedi'r holl drafod am y crysau y byddan nhw'n gwisgo yn ystod y gêm, llwyddodd chwaraewyr Caerdydd i sicrhau mai'r canlyniad fyddai'n cael yr holl sylw, wrth i Gaerdydd fwynhau buddugoliaeth gartref yn erbyn Fulham.

Aeth Caerdydd ar y blaen wedi 14 munud, diolch i beniad Sean Morrison.

Ac er gwaethaf cyfleoedd i'r ddau dîm, 1-0 i'r Adar Gleision oedd y sgôr ar ddiwedd y gêm.

Mae hon yn fuddugoliaeth bwysig i Gaerdydd, gan ddod â rhediad o bum gêm heb fuddugoliaeth i ben.