Casnewydd 1-0 Portsmouth

Clwb pêl-droed Casnewydd

Hir yw pob ymaros medde nhw, ac roedd rhaid disgwyl 68 munud cyn i'r bêl ganfod cefn y rhwyd, er gwaethaf cyfleoedd i'r ddau dîm.

Ond cefnogwyr Casnewydd oedd yn dathlu wrth i Mark Byrne roi'r tîm cartref ar y blaen.

Llwyddodd Casnewydd i gadw eu mantais, ac mae'r tri phwynt yn golygu eu bod nhw bellach yn drydedd yn y tabl.