Gwrthdrawiad Casnewydd: Cyhuddo dyn

Gwrthdrawiad Casnewydd Image copyright Wales News Service
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad yng Nghasnewydd fore Gwener

Mae dyn 22 oed o Gasnewydd wedi'i gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus yn dilyn y gwrthdrawiad yng Nghasnewydd achosodd farwolaeth Xana Doyle.

Roedd Xana Doyle yn 19 oed ac yn byw yn y ddinas.

Digwyddodd y gwrthdrawiad am 07:07 fore Gwener.

Bydd y dyn hefyd yn wynebu cyhuddiadau eraill, gan gynnwys dwyn cerbyd a gyrru heb yswiriant.

Mae'r dyn wedi'i gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Casnewydd fore Llun.

Dywed Heddlu Gwent bod y dyn 21 oed gafodd ei arestio yn dilyn y gwrthdrawiad bellach wedi'i ryddhau.