Ffrwydrad nwy yn difrodi tŷ yn Ynys Môn

Trearddur Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y ffrwydrad mewn tŷ yn Nhrearddur, Ynys Môn am 14:22 ddydd Sadwrn.

Mae ffrwydrad nwy wedi achosi difrod i dŷ yn Ynys Môn, wedi digwyddiad gyda stôf wersylla yn dilyn toriad yn y cyflenwad trydan.

Roedd y stôf wedi cael ei diffodd, ond wedi ei gadael ar ben stôf drydanol oedd wedi'i gadael ymlaen tra'r oedd y cyflenwad trydan wedi'i golli.

Wedi i'r cyflenwad trydan gael ei adfer roedd y stôf wedi cynhesu.

Nid oedd unrhyw un yn y tŷ yn Nhrearddur pan ddigwyddodd y ffrwydrad am 14:22 ddydd Sadwrn.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod difrod sylweddol wedi'i achosi i ddrysau a ffenestri'r tŷ.

Dywedodd rheolwr y tîm diogelwch cymunedol, Brian Williams: "Gyda'r posibilrwydd cryf o doriadau i'r cyflenwad trydan yn ystod y tywydd stormus presennol, hoffwn atgoffa unrhyw un sy'n defnyddio offer gwersylla i sicrhau ei fod wedi'i ddiffodd a'i gadw'n ddiogel."