Abertawe'n cytuno ar bris am Bony

Wilfried Bony Image copyright Huw Evans picture agency

Mae clwb pêl droed Abertawe wedi cytuno ar bris i werthu Wilfried Bony i bencampwyr yr Uwch Gynghrair Manchester City, a £28 miliwn fydd y pris hwnnw.

Roedd rheolwr Abertawe, Garry Monk, wedi dweud yn flaenorol y byddai angen ffi "rhyfeddol" er mwyn i'r chwaraewr 26 oed o'r Traeth Ifori adael Stadiwm Liberty.

Bony sgoriodd fwyaf o goliau yn yr Uwch Gynghrair yn y flwyddyn 2014, gyda 20 o goliau.

Ymunodd Bony ag Abertawe o glwb Vitesse Arnhem yn yr Iseldiroedd am £12 miliwn, y taliad mwyaf am unrhyw chwaraewr yn hanes clwb pêl-droed Abertawe.

Mae'r pris o £28 miliwn am Bony yn torri'r record ar gyfer y pris mwyaf i'w dalu am chwaraewr o Abertawe, sef £15 miliwn a dalwyd gan Lerpwl am Joe Allen ym mis Awst 2012.