Gwynt yn achosi trafferthion teithio ar draws Cymru

Porthcawl Image copyright Matthew Horwood

Mae rhai o wasanaethau Irish Ferries o Gaergybi a Doc Penfro dydd Sul a dydd Llun wedi eu canslo oherwydd tywydd garw.

Ni fydd llongau HSC Jonathan Swift yn teithio rhwng Cymru ac Iwerddon.

Mae gwyntoedd cryfion hefyd yn golygu bod cyfyngiadau cyflymder mewn grym ar yr M48 dros Bont Hafren a'r A55 dros Bont Britannia.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru mae dau rybudd i fod yn barod am lifogydd mewn grym ar gyfer ardaloedd yng ngogledd a chanolbarth Cymru.