Rygbi Pro12: Gweilch 22-11 Dreigiau

Gweilch v Dreigiau Image copyright Huw Evans picture agency

Aeth y Dreigiau ar y blaen yn gynnar yn y gêm, diolch i gic gosb gan Tom Prydie wedi pedwar munud.

Ond 10 munud yn ddiweddarach roedd Dan Biggar wedi unioni'r sgôr.

Ychydig cyn diwedd yr hanner cyntaf sgoriodd Tyler Ardron i'r tîm cartref, a llwyddodd Biggar gyda'r trosiad i roi mantais o 10-3 i'r Gweilch.

Wedi dau funud roedd Prydie wedi lleihau'r bwlch rhwng y ddau dîm gyda chic gosb, cyn i'r Gweilch ail-hawlio eu mantais o saith pwynt, diolch eto i Biggar.

Ac mi gychwynnodd yr ail hanner yn union yr un modd ag y daeth y cyntaf i ben, wrth i Biggar ychwanegu tri phwynt arall i gyfanswm y Gweilch.

Hanner ffordd drwy'r ail hanner llwyddodd Biggar gyda'i bedwaredd gic cosb, cyn i bethau fynd o ddrwg i waeth i'r ymwelwyr wrth i Brok Harris dderbyn cerdyn melyn, a chael ei anfon i'r gell gosb.

Ond munudau'n ddiweddarach cafodd Harris gwmni yn y gell gosb, wedi i chwaraewr y Gweilch, Scott Baldwin, dderbyn cerdyn melyn.

Deg munud cyn diwedd y gêm sgoriodd Richie Rees gais i'r ymwelwyr, cyn i Biggar sgorio ei bumed gic cosb, gan sicrhau buddugoliaeth i'r Gweilch o 22-11.