Cynllun £8 miilwn i ailadeiladu pont yng Nghaerdydd

Pont Windsor Image copyright Jaggery/Geograph
Image caption Mae angen pont newydd er mwyn galluogi trydaneiddio'r rheilffordd rhwng Llundain a Chaerdydd erbyn 2017.

Bydd cwmni Network Rail yn dechrau ar y gwaith ddydd Llun o ail adeiladu pont sy'n croesi dros y rheilffordd yng Nghaerdydd gan gysylltu ardaloedd Y Sblot ac Adamsdown.

Mae'r prosiect £8 miliwn yn golygu bydd cerbydau yn cael eu dargyfeirio tan y gwanwyn y flwyddyn nesaf.

Mae'r bont wreiddiol yn 100 oed, ac mae angen ei hailgodi er mwyn paratoi ar gyfer trydaneiddio'r rheilffordd oddi tani.

Dywed Cyngor Caerdydd eu bod wedi cydweithio gyda chwmni Network rail er mwyn ceisio lleihau effaith y gwaith.