Polisi addysg: 'Cymedrol' medd Estyn

Polisi Addysg Image copyright PA

Dim ond cynnydd 'cymedrol' sydd wedi bod yn dilyn cyflwyno un o brif bolisïau Llywodraeth Cymru ar rifedd a llythrennedd, yn ôl y corff sydd yn arolygu safonau addysg yng Nghymru.

Mewn adroddiad sydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth, dywed Estyn mai diffyg amser a chefnogaeth i ysgolion sydd yn gyfrifol am hyn.

Mae'r llywodraeth yn dweud bod yr adroddiad yn dangos cynnydd mewn nifer o agweddau, ond ei fod hefyd yn eu hatgoffa fod llawer o waith eto i'w wneud i wella rhifedd a llythrennedd plant Cymru.

Dywed yr adroddiad, sydd yn edrych ar safonau llythrennedd plant 11-14 oed, fod arolygwyr wedi darganfod mai 'digonol' oedd y ddarpariaeth i ddatblygu sgiliau llythrennedd disgyblion yn y mwyafrif o ysgolion dan sylw.

Ddwy flynedd yn ôl fe gyflwynodd Llywodraeth Cymru Fframwaith Rhifedd a Llythrennedd er mwyn galluogi athrawon i sefydlu rhifedd a llythrennedd fel conglfaeni pob pwnc i ddisgyblion rhwng 5 a 14.

Nid yw'n ymddangos fod y Fframwaith Rhifedd a Llythrennedd yn cyrraedd y nod yr oedd y Llywodraeth wedi gobeithio ei weld.

Yn ei adroddiad, dywed arolygwyr Estyn:

"Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae safonau ar y cyfan wedi eu barnu fel rhai ardderchog mewn un o bob naw ysgol uwchradd oedd yn rhan o'r adolygiad, ac yn dda mewn dwy o bob pum ysgol, sydd yn debyg i'r ddwy flwyddyn flaenorol."

Mae arolygwyr Estyn yn awgrymu yn yr adroddiad fod y broblem yn hanu o ddiffyg amser a chefnogaeth i ysgolion wrth gyflwyno'r fframwaith:

"Cafodd y fframwaith ei gyflwyno yn sydyn, ond mae cynnydd wrth weithredu'r fframwaith wedi bod yn arafach na'r disgwyl am salw rheswm, yn cynnwys:

  • anhawsterau mewn asesu cefnogaeth gan nad oedd y wefan yn hawdd i'w defnyddio
  • mynediad annigonol i gyfleoedd hyfforddi
  • y mwyafrif o ysgolion heb ddealltwriaeth eglur o gynnydd yn safonau llythrennedd disgyblion, a
  • diffyg arweiniad ar asesiadau

Dywed arolygwyr y dylai Llywodraeth Cymru "gynnig arweiniad a chefnogaeth i athrawon i'w cynorthwyo i weithredu'r Fframwaith Rhifedd a Llythrennedd ac i ddatblygu sgiliau llythrenedd ar draws y cwricwlwm".

Dadansoddiad Arwyn Jones, Gohebydd Addysg BBC Cymru

Mae'r Fframwaith Rhifedd a Llythrennedd yn deillio o araith gan y cyn-weinidog addysg, Leighton Andrews nol yn 2011.

Roedd o'n ymateb i ganlyniadau siomedig y profion rhyngwladol Pisa yn 2010, lle gwnaeth Cymru yn waeth na'r disgwyl.

Un rhan o ateb Mr Andrews oedd cyflwyno strwythur newydd i athrawon ei dilyn er mwyn gwâu rhifedd a llythrennedd i bob rhan o'r cwricwlwm.

Rhan arall y fframwaith ydy profion blynyddol i ddisgyblion rhwng 5-14 oed.

Y syniad ydy bod angen mwy o bwyslais ar rifedd a llythrennedd a bod angen dilyn perfformiad plant yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol.

Ond o'r dechrau roedd nifer o athrawon wedi codi pryderon nad oedd digon o amser i baratoi cyflwyno'r cynllun.

Bu bygythiadau o streicio am y byddai'n golygu mwy o waith yn y dosbarth, ond erbyn 2013 roedd y fframwaith yn ei le.

Tydi'r fframwaith, felly, ddim wedi cael rhyw lawer o amser i wneud gwahaniaeth, ond mae'n amlwg fod gan arolygwyr Estyn bryderon fod cyn-lleied o gefnogaeth a hyfforddiant wedi bod ar gael wrth i athrawon baratoi i gyflwyno'r newidiadau.

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

"Mae datblygu sgiliau llythrennedd ein pobl ifanc yn hynod o bwysig i addysg yng Nghymru ac yn flaenoriaeth i'r llywodraeth.

"Mae'r ail adroddiad yma gan Estyn yn dangos cynnydd mewn nifer o agweddau. Mae'n dangos fod gwelliant wedi bod mewn cynllunio ac agwedd ysgolion at farcio, ac yn dangos fod safonau mewn Cymraeg a Saesneg wedi gwella. Rydym yn croesawu hyn.

"Mae'r adroddiad fodd bynnag yn ein hatgoffa fod llawer eto sydd angen ei wneud. Rhaid i ni gofio ei fod yn ddyddiau cynnar wrth i ni weithredu nifer o bolisiau pwysig fel Fframwaith Rhifedd a Llythrennedd, ac mai dim ond ym mis Medi y dechreuodd ysgolion asesu datblygiad disgyblion yng nghyd-destun y fframwaith."

Straeon perthnasol