'Corff mewn afon': Ail-ddechrau chwilio

Bu'r awdurdodau yn chwilio yn ardal Pont Heol Penarth nos Lun Image copyright Matthew Horwood
Image caption Bu'r awdurdodau yn chwilio yn ardal Heol Penarth nos Lun

Mae'r gwasanaethau brys yng Nghaerdydd wedi ail-ddechrau chwilio am gorff yn Afon Taf wedi i aelod o'r cyhoedd "weld corff yn y dŵr" nos Lun.

Fe gafodd Heddlu'r De eu galw i Bont Heol Penarth yn ardal Grangetown, gan ddweud bod yr ymgyrch chwilio yn heriol oherwydd llif cyflym yr afon.

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i roi cymorth, ond fe adawon nhw am 11.20pm wedi iddyn nhw fethu dod o hyd i gorff.

Nawr, mae'r achos yn nwylo'r heddlu, ac mae gan y llu gwch a dau heddwas ar yr afon ers 9.00am fore Mawrth.

Straeon perthnasol