Ysbyty Athrofaol 'yn waeth nag Irac'

Ysbyty Athrofaol Cymru

Mae nyrs brofiadol yn ysbyty mwyaf Cymru wedi cynnig disgrifiad cignoeth o'r pwysau sy'n wynebu staff yno.

Ysgrifennodd y nyrs lith tair tudalen am y straen o weithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, gan honni fod hynny'n waeth na gweithio ar faes y gad yn Irac.

Ni chafodd enw'r nyrs ei gyhoeddi, ond cafodd copi o'i llythyr ei dynnu o fwrdd hysbysu staff a'i ryddhau i bapur y Western Mail.

Dywedodd bod nyrsys yn "wynebu lefelau uwch o straen nag a wnaethon ni erioed mewn ardal o ryfel", a'i bod yn cael ei gorfodi i wneud penderfyniadau sy'n "peryglu cleifion a rhoi'r staff dan bwysau aruthrol".

'Heriau ddim yn unigryw'

Wrth ymateb, dywedodd prif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Adam Cairns:

"Roedd hon yn stori gafodd ei rhannu gan staff yr adran argyfwng yn ein fforwm ar y lefel uchaf ychydig wythnosau yn ôl. Mae'n disgrifio'r lefel heriol iawn o ddarparu gofal cymhleth yn ddyddiol.

"Roedd hi'n anodd clywed y neges, ond fe gafodd ei rhannu'n eang gyda staff a'i defnyddio i'n hysbrydoli i ganfod atebion i'r heriau sylweddol yma.

"Nid yw'r heriau'n unigryw, ac maen nhw'n cael eu hwynebu ar draws y DU, ond yma yng Nghaerdydd a'r Fro rydym yn gweithio'n ddiflino i gwrdd â'r galw neilltuol.

"Rydym wedi cymryd camau neilltuol, gan gynnwys agor mwy o welyau, dod â mwy o staff i mewn a symud staff o ddyletswyddau clinigol o fannau eraill."

Lefelau staffio

Ond roedd Tina Donnelly, o'r Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru, sydd hefyd wedi gweithio yn Irac, yn disgrifio llythyr y nyrs fel "brawychus a phryderus".

Dywedodd: "Mae'r neges yn gofnod o funud i funud o waith nyrs sy'n dangos pa mor gymhleth a heriol yw'r gwaith mewn adran gofal brys.

"Mae'r materion dan sylw yn cyfeirio at ofal brys - nid sôn ydym yma am bobl sy'n mynd i adran ddamweiniau yn ddiangen.

"Mae'r holl heriau yma'n ymwneud â lefelau staffio, a'r angen iddyn nhw fod ar ei lefel uchaf i ddelio gyda'r materion gofal cymhleth yma."

Yn y Senedd ym Mae Caerdydd, fe gadarnhaodd y prif weinidog Carwyn Jones bod manylion y llythyr gan y nyrs yn gywir, ond mynnodd fod y pwysau ar adrannau brys ar ei uchaf ers pum mlynedd.

Ychwanegodd na ddylai rhai pobol fynd i'r adran frys o gwbl, ond dywedodd bod ffactorau eraill megis math newydd o ffliw y tu ôl i'r trafferthion diweddar.

Straeon perthnasol