Wrecsam 6-1 Stockport

Buddugoliaeth i Wrecsam

Mae Wrecsam wedi diogelu eu lle yn nhrydedd rownd Tlws FA Lloegr ar ôl trechu Stockport County mewn gem ailchwarae llawn cyffro ar y Cae Ras nos Fawrth.

Agorwyd y sgorio gydag ergyd o du allan i'r cwrt cosbi gan Wes York a grymanodd i'r gornel uchaf y rhwyd ar ôl 21 munud.

Dau funud yn ddiweddarach roedd York yng nghanol y chwarae unwaith eto wrth iddo ddadlwytho'r bel i'w gyd-ymosodwr Andy Bishop, a gurodd y gôl-geidwad i'w gwneud yn 2-0.

Cipiodd yr ymwelwyr gôl yn erbyn llif y chwarae cyn yr hanner wrth i Chris Churchman guro Daniel Bachmann ar ôl 43 munud.

Roedd drama annisgwyl yn ystod hanner amser pan gafodd y gôl-geidwad Bachmann ei dynnu i ffwrdd oherwydd anaf, ond heb neb i gamu i'w safle ymysg yr eilyddion, bu rhaid i'r chwaraewr canol cae Joe Clarke fynd rhwng y pyst ar gyfer yr ail hanner.

Ychydig iawn oedd gan Clarke i'w wneud yn y gôl wrth i ymosodwyr Wrecsam gyfuno i sgorio unwaith eto ar ôl 49 munud, wrth i ben Bishop gyfarfod croesiad York yn y cwrt cosbi.

Bum munud yn ddiweddarach, cododd York y bel dros gôl-geidwad y tîm o Gyngres y Gogledd i'w gwneud yn 4-1.

Rhoddodd Louis Moult y bel yn y rhwyd ar 73 munud ar ôl pas wych gan Bishop, cyn i Steve Tomassen gwblhau'r sgorio ddau funud cyn diwedd y 90.

Bydd Wrecsam yn wynebu un ai Gateshead neu Grimsby yn nhrydedd rownd y gystadleuaeth, gyda'r ddau dîm yn chwarae nos fory i ddewis pwy fydd yn cael eu croesawu i'r Cae Ras yn ddiweddarach mis Ionawr.