Crys 13 y Scarlets
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Drama am fywyd Grav

14 Ionawr 2015 Diweddarwyd 12:34 GMT

Roedd Ray Gravell yn gymeriad wnaeth serenu ar y cae rygbi ac oddi arno.

A bellach mae sioe un dyn wedi'i chynhyrchu am ei fywyd.

Yr actor Gareth Bale fydd yn ei bortreadu, ac mi fydd y cynhyrchiad 'Grav' yn mynd ar daith yn ystod misoedd Chwefror a Mawrth.

Cafodd y cyfan ei lansio ym Mharc y Scarlets nos Fawrth a bu Dafydd Morgan, gohebydd BBC Cymru yn holi'r actor.