Wilfried Bony yn symud i Fanceinion

Wilfried Bony Image copyright Getty Images
Image caption Wilfried Bony

Mae Abertawe wedi cadarnhau fod yr ymosodwr Wilfried Bony wedi arwyddo i Manchester City am £28 miliwn.

Fe arwyddodd gytundeb pedair blynedd a hanner a bydd yn gwisgo crys Rhif 14.

"Mae'n deimlad gwych, yn anrhydedd ac yn her fawr," meddai'r ymosodwr 26 oed.

"Fel chwaraewr, mae hi o hyd yn dda bod yn rhan o un o glybiau mwyaf y byd ac mae'n gyfle da i mi fod yn y sefyllfa yna nawr - rwy'n falch iawn.

"Roeddwn wedi cynhyrfu yn disgwyl am y foment yma a nawr ei bod wedi cyrraedd, mae'n anhygoel.

"Rwy'n credu bod hyn yn ddewis grêt i mi - mae Manchester City yng Nghynghrair y Pencampwyr, ac mae'n gymhelliant i mi i roi fy ngorau i fod yn rhan o hynny."

Roedd wedi ymuno ag Abertawe am £12 miliwn o glwb Vitesse Arnhem yn yr Iseldiroedd yn 2013.

Fe oedd prif sgoriwr yr uwchgynghrair yn 2014 gyda 20 gôl.

Cytunodd Abertawe a Man City dros y penwythnos gyda £25 miliwn yn cael ei dalu'n syth, a £3 miliwn arall yn ôl ei berfformiad.

Dywedodd reolwr Manchester City Manuel Pellegrini: "Mae'n beldroediwr deallus gyda sgil a phŵer ac mae ei record goliau wedi bod yn ardderchog ers iddo ddod i Loegr.

"Mae wedi addasu yn gyflym iawn i'r gem yma ac rwy'n meddwl y bydd yn setlo'n sydyn yma.

"Nawr mae gennym ni bedwar blaenwyr o'r safon uchaf ac rwy'n edrych ymlaen eu gweld yn gweithio gyda'i gilydd."

Mae'r pris yn golygu mai Bony yw'r chwaraewr mwyaf costus erioed o gyfandir Affrica.

Ar hyn o bryd mae o gyda charfan Traeth Ifori ar gyfer Cwpan Cenhedloedd Affrica, ac mae'n bosib y bydd yn rhaid iddo aros gan ganol Chwefror cyn chwarae i City.

Image copyright sport-ivoire.ci/Twitter
Image caption Llun o Wilfried Bony mewn crys Manchester City ar Twitter cyn i'r cytundeb gael ei gadarnhau

Yn gynharach dydd Mercher roedd Abertawe wedi beirniadu Ffederasiwn Pêl-droed Traeth Ifor am gyhoeddi fod y cytundeb wedi ei arwyddo, cyn i'r clybiau wneud hynny.

Dywedodd llefarydd ar ran Abertawe "does gan Traeth Ifori ddim hawl i wneud sylw."

Yn ddiweddarach fe wnaeth Abertawe ryddhau datganiad y cadarnhau y cytundeb ac yn diolch i Bony am "ei wasanaeth gwych i'r clwb."