Ffydd yn wyneb terfysg

Mosg Dar Ul-Isra Image copyright Arall
Image caption Trwy agor eu drysau i'r gymuned, mae Mosg Dar Ul-Isra yn gobeithio hybu dealltwriaeth pobl o'r grefydd Foslemaidd

Mae Mohammed Ahmed yn swyddog cymunedol Mosg Dar Ul-Isra yng Nghaerdydd. Wedi'r ymosodiadau diweddar yn Ffrainc, mae wedi rhannu ei deimladau gyda BBC Cymru Fyw ynglyn â phwysigrwydd pontio rhwng gwahanol grefyddau er mwyn annog gwell dealltwriaeth.

Mae gan Fosg Dar Ul-Isra a Chyngor Mwslemiaid Cymru bolisi drws agored ac fel rhan ohono, fe drefnon ni sgwrs fer ar gyfer aelodau'r gymuned Gristnogol leol fis diwethaf.

Roedd y digwyddiad yn gadael i aelodau, efallai nad yw'n rhy gyfarwydd â'r grefydd, i gael gwell dealltwriaeth ohoni. Hefyd gweld beth sydd yn digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig mosg.

Mae'n debyg fod yr amseriad yn addas, fodd bynnag, gan fod y ffydd Foslemaidd wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar. Roedd y rhai a oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau ym Mharis yn honni eu bod yn Foslemiaid ac yn dilyn Islam.

Roedd ganddon ni nifer fawr o bobl wedi eu cadarnhau, yn cynnwys y Parchedig Owain Llyr Evans o Eglwys Annibynnol Gymraeg Minny Street, Caerdydd, a'r Tad Gareth Jones, o Wasanaeth Caplaniaeth Prifysgol Caerdydd.

Image copyright Arall
Image caption Rhai o aelodau'r Mosg gyda'r Tad Gareth Jones

'Undod'

Dechreuodd y digwyddiad â darlleniad o'r Quran wedi ei gyfieithu i'r Saesneg. Helpodd hyn i greu undod yn syth gan fod Imam y Mosg, Sheikh Yaqoub, wedi dewis i lefaru rhan o Bennod 19 sy'n dwyn yr enw Mair, mam Iesu, Heddwch fo gydag Ef.

Cafwyd darlith gan Sheikh lleol ynglŷn â phwy oedd Iesu, Heddwch fo gydag Ef, o fewn Islam. Mae peth o'n dealltwriaeth ni'n debyg i'n brodyr Cristnogol, tra bod rhannau eraill yn gwrth-ddweud y gred Gristnogol. Ond, er hynny, roedd yn dal yn ffordd o greu gwell dealltwriaeth o ffydd ein gilydd.

Paratôdd y Cogydd Mehat bryd o fwyd Arabaidd/Asiaidd a gafodd ei rannu rhwng pawb ar ddiwedd y cyfarfod.

Image copyright Arall
Image caption Cafodd y ganolfan ei sefydlu yn 1989 ar gyfer y gymuned Foslemaidd yng Nghaerdydd

Digwyddiadau fel yma yw beth sydd ei angen ar gymunedau lleol er mwyn adeiladu gwell dealltwriaeth. Ac er fod gwahaniaethau mewn barn a safbwyntiau, roedd pawb yn parchu ei gilydd ac yn trin ei gilydd ag urddas.

Roedd gan yr ymwelwyr lawer o adborth, ac roedden nhw'n croesawu'r cyfle i siarad â Moslemiaid a gofyn cwestiynau. Roedden nhw'n falch o gael gweld pa mor groesawgar oedd y Mosg a'u bod yn teimlo'n gartrefol yno.

Mae'r digwyddiad yn sicr wedi cryfhau cysylltiadau - sef beth yn union sydd ei angen y dyddiau yma. Daeth unigolion o bob cwr o Gaerdydd a bydd y cyfle a gafwyd i rwydweithio yn arwain at ddigwyddiadau tebyg mewn ardaloedd eraill o'r ddinas.

Roedd y Moslemiaid a ddaeth i'r digwyddiad hefyd yn teimlo'n falch fod cymaint o Gristnogion wedi mynd i'r ymdrech i ddod, ac fe ddangosodd nad yw'r feddylfryd o 'ni' a 'nhw' yn bodoli yng Nghaerdydd.