Dod o hyd i gorff yn Afon Taf

Chwilio Afon Taf Image copyright Matthew Horwood
Image caption Bu'r awdurdodau yn chwilio yn ardal Pont Heol Penarth nos Lun

Mae swyddogion yr heddlu fu'n chwilio Afon Taf ers nos Lun wedi dod o hyd i gorff menyw.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Pont Heol Penarth ger canol y ddinas nos Lun, wedi i rywun weld corff yn y dŵr.

Yn ôl swyddogion, roedd yr ymgyrch chwilio yn un heriol oherwydd cyflymder llif yr afon.

Bu'r heddlu'n parhau i chwilio nes iddyn nhw ddod o hyd i'r fenyw bnawn Mercher.

Nawr, mae ymchwiliad ar droed i geisio adnabod y corff.

Straeon perthnasol