Angladd cyn gyflwynydd BBC Cymru

Steve Taylor Image copyright ITV Wales News

Bydd angladd cyn gyflwynydd BBC Cymru, Steve Taylor, yn cael ei gynnal ddydd Iau.

Bu farw Mr Taylor ym mis Rhagfyr, yn 65 oed.

Roedd yn arfer cyflwyno'r rhaglen 456 ar BBC Radio Wales.

Yn ddiweddarach, fe ymunodd â HTV fel cyflwynydd a newyddiadurwr, lle bu'n gweithio rhwng 1992 a 2006.

Roedd hefyd yn gyflwynydd ar Radio Gwent ac yn gweithio i'r South Wales Argus yng Nghasnewydd.

Bydd ei angladd yn cael ei gynnal yn Eglwys y Drindod, Christchurch, Casnewydd, a bydd gwasanaeth yn Amlosgfa Gwent, yng Nghroesyceiliog, i ddilyn.

Mae Mr Taylor yn gadael gwraig a dau o blant.

Straeon perthnasol