Gorau Cymro, Cymro oddi cartref?

Mae'r nifer o Gymry lwyddodd i fynd i brifysgolion Caergrawnt a Rhydychen ar eu lefel isaf ers 2008
Image caption Mae'r nifer o Gymry lwyddodd i fynd i brifysgolion Caergrawnt a Rhydychen ar eu lefel isaf ers 2008

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sefydlu canolfannau arbenigol i helpu'r disgyblion mwyaf galluog i fynd i'r prifysgolion gorau. Mae Benjamin Sadler bellach yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Rhydychen ar ôl graddio o Brifysgol Aberystwyth. Mewn blog i Cymru Fyw mae e'n credu y dylai myfyrwyr Cymru ehangu eu gorwelion.

Manteision ariannol

Pan es i i Aberystwyth yn 2009 i ddechrau gradd yn y Gymraeg, roeddwn i'n rhan o'r flwyddyn olaf i fanteisio'n ariannol oherwydd fy newis i astudio yng Nghymru.

Erbyn hyn, does dim angen talu'n uwch i fynd i astudio dros y ffin, fel yr oedd i'm cyfoedion i. Ar ôl i'r llywodraeth glymblaid godi ffioedd yn uwch byth, mae Llywodraeth Cymru yn sybsideiddio myfyrwyr Cymreig lle bynnag y byddan nhw'n mynd ar yr ynys hon.

Ar ôl graddio yn 2012, penderfynais i ddod draw i astudio am radd MSt (Masters Degree in Literature and Arts) a wedyn DPhil (Doctor of Philosophy) yn Rhydychen. Eleni fi yw llywydd cymdeithas Gymraeg y brifysgol, Cymdeithas Dafydd ap Gwilym.

Image copyright Benjamin Sadler
Image caption Rhai o Gymry Prifysgol Rhydychen yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi

O flwyddyn i flwyddyn r'yn ni'n croesawu criw o aelodau newydd, ond er sybsidïau'r llywodraeth, mae'r canran o fyfyrwyr o Gymru sy'n dod i astudio yma a Chaergrawnt yn dal i fod yn sylweddol is na'r canrannau o wledydd eraill ynys Prydain.

I grynhoi'r sefyllfa: mae myfyrwyr yn gadael Cymru am Loegr, ond yn methu cyrraedd rhai o'i phrifysgolion gorau.

Sefydlu 'hubs' newydd ledled Cymru i hybu ceisiadau llwyddiannus i Rydychen a Chaergrawnt yw nod y Llywodraeth, yn dilyn adroddiad gan Paul Murphy.

Gawn ni obeithio bydd to newydd o Gymry'n adfywio Cymreictod fy ngholeg fy hun, Coleg Iesu, a sefydlwyd ym 1571 gan Huw ap Rhys o Aberhonddu.

Pam gadael Cymru?

Image caption Fe lithrodd Prifysgol Aberystwyth 11 safle i 93ain yn y DU yng nghanllaw prifysgolion The Times 2014

A dyna sy'n dod at graidd y peth: pam dylai unrhyw un ddod i astudio yn Rhydychen? Pam gadael Cymru?

Cyn mynd ymhellach, mae rhaid dweud bod gennym brifysgolion da iawn yng Nghymru: daeth Prifysgol Caerdydd yn chweched yn yr asesiad REF diweddar yn eu Table of Excellence ac yn bumed yn y top 10 by impact (h.y. ymchwil).

Gaf i ddweud hefyd, yn fy marn ddiduedd bersonol i, na chaiff neb addysg well na'r hyn a ddarperir gan Adran Gymraeg Prifysgol Aberystwyth.

'Cyfle i'r Cymry weld y byd, ac i'r byd weld y Cymry'

Beth felly yw'r rheswm dros adael Cymru am Rydychen a Chaergrawnt? Mae'r ddwy yn brifysgolion gwych, wrth reswm. Un rheswm arall, er ei fod yn rheswm digon salw, yw bri'r prifysgolion hyn.

Does dim eisiau edrych ymhellach nac arweinwyr y tair plaid fawr yn San Steffan i weld, ysywaeth, fod monopoli gan raddedigion Rhydychen a Chaergrawnt o hyd.

Gwaetha'r modd, bydd hyn yn effeithio ar Gymru cyhyd â bod yr Undeb Prydeinig yn parhau. Ond yn bwysicach na hynny yw'r cyfle sy'n dod o astudio i ffwrdd: cyfle i'r Cymry weld y byd, ac i'r byd weld y Cymry.

Mae lledaenu profiadau yn bwysig tu hwnt i unrhyw ddiwylliant, yn y maes academaidd fel unrhyw faes arall.

Ond os cymerwn mai dyna'r bwriad, lledaenu profiad, pam aros gyda phrifysgolion Lloegr? Yn ôl asesiad QS o brifysgolion y byd, mae'r deg uchaf i gyd yn brifysgolion Saesneg eu hiaith.

Felly, beth am her newydd i Lywodraeth Cymru wedi'r 'hubs'? Beth am ysgoloriaethau newydd i MIT, Harvard, Stanford, neu Princeton?

Wedi'r cwbl, 'gorau Cymro, Cymro oddi cartref'.

Ydych chi'n cytuno gyda Benjamin? Cysylltwch gyda ni gyda'ch sylwadau ar e-bost cymrufyw@bbc.co.uk neu ar ein cyfrif Twitter @BBCCymruFyw

Image copyright Kevin Davies
Image caption Mi aeth 144 o ddisgyblion Cymru i Gaergrawnt a Rhydychen yn 2008. Llynedd roedd y nifer wedi gostwng i 105

Straeon perthnasol