Cyfarfod strategaeth iaith Sir Gâr

Cyfarfod agored Cymdeithas yr Iaith

Cafodd cyfarfod agored ei gynnal yng Nghaerfyrddin gan Gymdeithas yr Iaith ddydd Sadwrn, i drafod strategaeth iaith Cyngor Sir Gaerfyrddin.

Cafodd y strategaeth ei chyflwyno gan y cyngor y llynedd, ac yn y cyfarfod fe glywodd aelodau'r Gymdeithas dystiolaeth gan swyddogion y cyngor a chynghorwyr am y gwaith sydd wedi ei wneud fel rhan o'r strategaeth ers iddi ddod yn weithredol.

Dywedodd Amy Jones, Is-Gadeirydd rhanbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith: "Rydyn ni'n falch bod y cyngor sir wedi diweddaru amserlen gweithredu eu strategaeth iaith, a bod swyddogion a chynrychiolwyr y cyngor wedi dod at ein cyfarfod ni heddiw.

''Mae'n dangos eu bod yn cymryd y Gymraeg o ddifrif, ond mae tipyn eto i'w wneud os ydyn ni am weld niferoedd siaradwyr Cymraeg yn tyfu a bod ein cymunedau ni'n cael eu hadfer."

"Mae'n amlwg felly bod gwaith i'w wneud. Er ein bod ni'n rhoi disgwyliadau ar y cyngor, mae rhan gyda ni i gyd i chwarae. Rydyn ni'n falch o allu dweud felly bod gyda ni dros hanner cant o bobl sydd am fod yn 'farcudiaid' ac sydd yn mynd i gadw llygad barcud ar waith y cyngor sir."

Un oedd yn cyflwyno tystiolaeth i'r cyfarfod oedd y cynghorydd Cefin Campbell, cynghorydd Plaid Cymru sydd yn cynrychioli ward Llanfihangel Aberbythych ar y cyngor.

'Angen amynedd'

Dywedodd Mr Campbell fod newidiadau wedi ei gweithredu yn barod gan Gyngor Sir Gaerfyrddin, ond fod angen amynedd wrth aros i weld y newidiadau yn dwyn ffrwyth ar lawr gwlad:

"Mae rhaid sylweddoli fod y strategaeth iaith y mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi ei mabwysiadu yn un radical iawn, ac mae'r cyngor wedi cymryd camau sylweddol i adfywio'r Gymraeg ac mae'n bwysig fod pobl yn cydnabod hynny.

"Gan fod y newidiadau yn rhai pellgyrhaeddol mae'n mynd i gymryd amser i'w gweithredu. Mae'n bwysig felly i bobl fod yn realistig o ran yr amserlen o ran y gofynion.

"Mae'n bwysig cadw llygad a phwyso ar y cyngor am newid, ond mae angen bod yn ddigon call i ddeall fod prosesau statudol angen eu dilyn, ac fe all hyn gymryd amser", meddai.

Cafodd y cyfarfod ei agor gan Uchel Siryf Dyfed, y ddarlledwraig Elinor Jones. Dywedodd: "Dwi'n credu fod pobl wedi meddwl am swydd Uchel Siryf fel peth uchel ael, ffroenuchel.

"Felly mae'n bwysig i bobl fel fi, sydd yn Gymraes dwymgalon o gefndir cyffredin Cymreig a Chymraeg i agor cyfarfodydd fel hyn, nid dim ond talu gwrogaeth yn unig pan fod rhywun yn derbyn y gwaith o fod yn Uchel Siryf."