Adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg

Je suis Charlie
Image caption Mae pobl wedi dangos eu cefnogaeth i gylchgrawn Charlie Hebdo

Wythnos yn ôl, yn dilyn erchylltra'r ymosodiad ar swyddfa cylchgrawn dychanol Charlie Hebdo ym Mharis, roedd pawb yn gytûn, gan fachu ar y tri gair Je suis Charlie i fynegi cefnogaeth i ryddid barn a chondemnio'r llofruddwyr.

Ar ôl cael amser i feddwl ac ystyried goblygiadau'r digwyddiad, yn enwedig penderfyniad y cylchgrawn i osod llun o Mohamed unwaith eto ar ei glawr yr wythnos hon, dyw'r sylwebyddion bellach ddim i gyd o'r un farn.

Je ne suis pas Charlie medd yr Hen Rech Flin yn ei flog, gan ddweud ei fod yn teimlo'n anghynnes parthed rhan o'r naratif sydd wedi codi ers yr erchyllterau yn Ffrainc yr wythnos diwethaf.

Yr hyn sy'n ei boeni yw'r cyhuddiad o lwfrdra, ildio i derfysgaeth, diffyg cefnogaeth i achos ryddid ac ati sy'n cael ei daflu at y sawl sy'n gwrthod ail gyhoeddi cartwnau Charlie Hebdo.

Os mai ofn yn unig yw'r rheswm dros beidio cyhoeddi - digon teg ond fel y mae rhyddid yn rhoi imi'r hawl i sarhau, mae hefyd yn rhoi imi'r hawl i barchu.

Rhyddid mynegiant

Cytuno mae blog Gronyn sy'n dweud nad yw rhyddid mynegiant yn golygu bod pobl yn cael dweud beth a fynnan nhw bob amser.

Mewn cymdeithas wâr mae pobl ar brydiau'n dewis peidio â dweud rhai pethau: peidio â dweud anwiredd; neu bethau a fydd yn achosi loes i eraill; a hyd yn oed beidio â dweud pethau sy'n sicr o greu helynt rhwng pobl a'i gilydd.

Ac yn Golwg, nid Charlie yw Dylan Iorwerth chwaith. Mae'n ymddangos, meddai, mai unig nod y lluniau amrwd o'r proffwyd Mohamed oedd cythruddo - a brifo dilynwyr diniwed Islam.

Yn Ffrainc mae'r boblogaeth Foslemaidd yn ddi-fraint. Nid dychan dewr ydi gwawdio ffigur ysbrydol yn y fath amgylchiadau - arweinwyr gwleidyddol a chrefyddol, Ie; hanfod cred pobol gyffredin sy'n cael eu gormesu, Na.

Pe bai eithafwr asgell dde wedi cyhoeddi rhywbeth gwirioneddol dilornus neu ffiaidd am bobol ddu, neu am Gymru, a fyddai cefnogwyr rhyddid barn yn galw am ailgyhoeddi'r rheini hefyd?

Gweld pethau'n wahanol

Ydi, mae Dylan yn cefnogi hawl Charlie i fynegi barn, ond dydi o ddim wastad yn rhannu'r farn honno.

Ar ei flog Anffyddiaeth mae Dylan Llŷr yn gweld pethau'n wahanol.

Cri gyfarwydd, yn ôl Dylan, yw bod rhyddid mynegiant yn dda ond nad yw hynny'n golygu y dylid mynd ati'n fwriadol i achosi loes.

Wel, Ie a Na.

Rwy'n berson eithaf gwleidyddol cywir ar y cyfan, meddai. Rwy'n feirniadol iawn pan welaf hiliaeth, homoffobia neu rywiaeth, ac yn yr ystyr yna, rwy'n credu bod yna rai pethau na 'ddylai' pobl eu dweud.

Image caption Pobl Paris yn ceisio dod i delerau gyda'r hyn ddigwyddodd

Ond o safbwynt rhyddid mynegiant, rwy'n cefnogi, gydag arddeliad, hawl pobl i ddweud pethau anghywir a hyll; rwyf yno'n llechu yn barod i ddefnyddio fy rhyddid mynegiant innau yn fy nhro i'w condemnio pan fyddant yn gwneud.

Mae rhyddid mynegiant yn bwysicach fyth pan mae datganiad yn debygol o beri loes; dyna'r union achlysur pan mae'r angen i'w amddiffyn ar ei fwyaf.

Nofel wleidyddol

Nid yw'r rhyddid i ddweud pethau saff yn unig, sy'n annhebygol o dramgwyddo unrhyw un, yn enghraifft ystyrlon o ryddid mynegiant o gwbl.

Fel sgwenwraig yn gweithio ar nofel wleidyddol, mae Meg Elis ar ei blog Sali Mali yn rhagweld na fydd pawb yn hoffi ei nofel pan gaiff ei chyhoeddi.

Ond y gwaetha dwi'n rhagweld, meddai, ydi adolygiadau beirniadol a sylwadau anllythrennog ar Golwg 360.

Ac mae'n holi: "Ga' i fy nghondemnio? Bosib. Ond dwi'n lwcus. Ga' i mo fy saethu."