Gwaharddiad: Tanio ffagl yn y Liberty

Stadiwm Libery
Image caption Roedd y drosedd yn Stadiwm Liberty

Mae dyn ifanc o Faesteg wedi ei wahardd rhag mynd i gemau pêl-droed wedi iddo danio ffagl mewn gêm rhwng Abertawe a Tottenham Hotspur yn Stadiwm Liberty.

Mae Gethyn Victor Davies, 22 oed, yn cefnogi Tottenham.

Bydd ei waharddiad am dair blynedd wedi iddo bledio'n euog i feddiannu bom mwg a mynd ar y cae chwarae yn y gêm fis diwethaf.

Yn Llys Ynadon Abertawe cafodd ddirwy o £465.

Nid yw'n cael mynd o fewn dwy filltir i gêm lle mae Tottenham neu dîm Lloegr yn chwarae ac nid yw'n cael mynd i unrhyw ddinas ble mae'r tîm yn chwarae oddi cartref.

'Awyrgylch groesawgar'

Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Phil Davies o Orsaf Ganolog Abertawe: "Rydym ni wedi gweithio gyda'r clwb a'r cwmni sy'n rheoli Stadiwm Liberty i greu awyrgylch groesawgar a theuluol ers dyrchafiad Abertawe i'r Uwch Gynghrair.

"Mae tanio ffagl a mynd ar y cae chwarae yn faterion difrifol ac mae'r gosb am ei ymddygiad yn Stadiwm Liberty yn gyrru neges gref i gefnogwyr tîm oddi cartref.

"Rydym ni eisiau i gefnogwyr ddod i Abertawe, cefnogi eu tîm a pheidio â chymryd rhan mewn anhrefn neu unrhyw ymddygiad anghyfreithlon arall.

"Bydd unrhywun sy'n cymryd rhan mewn ymddygiad fel yna yn wynebu cael ei wahardd am amser hir."