Rhybudd am rew wedi'r tywydd garw

Trin ffyrdd
Image caption Loriau cyngor yn trin y ffyrdd yn gynharach yn yr wythnos

Mae teithwyr wedi eu rhybuddio i gymryd gofal ar y ffyrdd ddydd Gwener wrth i rybudd melyn am rew gael ei gyhoeddi.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y bydd rhew yn ffurfio ar rai ffyrdd sydd heb eu trin yn dilyn glaw a chenllysg dros y dyddiau diwethaf.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi pedwar rhybudd llifogydd ar afonydd ym Mhowys, Sir Gaerfyrddin a Sir Fynwy.